Ansoddeiriau cymariaethol
Contents
Rhaglith
Mae pedwar fath o ansoddair cymariaethol: cysefin, cyfartal, cymharol, ac eithafol. Er enghraifft:
Mae’r ffurf gysefin y bôn neu’r ffurf gyffredinol (h.y., gwrywaidd). Defnyddir y ffurf gysefin i lunio’r ffurfiau eraill (h.y., cyfartal, cymharol, ac eithafol). Dydy ansoddeiriau cymariaethol dim yn derbyn terfyniadau am genedl neu rif.
Yn ogystal â defnyddio ansoddeiriau cymariaethol i gymharu pethau, gellir defnyddio cystrawennau ymadroddol: "mor <ans>+TM" am y cyfartal, a’r ffurf gymharol/eithafol "bach" neu "mawr" am y cymharol neu eithafol.
Ffurfiau cymariaethol
Ffurfiau rheolaidd
hy: there seems to be a kind of proto-comparative form which then receives various endings {cyf, cymh, eith} (224,5).
Dyma batrwm rheolaidd ansoddeiriau cymariaethol:
| cysefin | cyfartal | cymharol | eithafol |
|---|---|---|---|
| <ans> | <ans>-ed | <ans>-ach | <ans>-af |
| cryf | cryfed | cryfach | cryfaf |
Er hynny, yn aml mae ‘bôn cymariaethol’, defnyddir yn ffurfiau cyfartal, cymharol, ac eithafol, sy’n wahanol o’r cysefin. Er enghraifft, mae sawl ansoddair colli llais ei gytsain olaf ([PWT], tud. 224):
| cysefin | bôn cymariaethol | cyfartal | cymharol | eithafol |
|---|---|---|---|---|
| gwlyb | gwlyp | gwlyped | gwlypach | gwlypaf |
| tlawd | tlot | tloted | tlotach | tlotaf |
| budr | butr | butred | butrach | butraf |
| gwydn | gwytn | gwytned | gwytnach | gwytnaf |
| caredig | caredic | carediced | caredicach | caredicaf |
| trugarog | trugaroc | trugaroced | trugarocach | trugarocaf |
Patrymau eraill o fôn cymariaethol:
| cysefin | bôn cymariaethol | cyfartal | cymharol | eithafol |
|---|---|---|---|---|
| peraidd | pereiddi | pereiddied | pereiddiach | pereiddiaf |
Ffurfiau afreolaidd
Mae’r rhan fwyaf o ffurfiau afreolaidd y cymariaethol yn defnyddio bôn cymariaethol sy’n wahanol o’r cysefin ([PWT], tud. 226-7). Mae’r ansoddeiriau hyn yn deffnyddio’r bôn syml (h.y., heb derfyniad) am y cymharol:
| cys. | bôn cym. | cyf. | eith. | sylw |
|---|---|---|---|---|
| agos | nes | nesed | nesaf | |
| bach | llai | lleied | lleiaf | 1 |
| cynnar | cynt | cynted | cyntaf | |
| hawdd | haws | hawsed | hawsaf | 2 |
| hen | hŷn | hyned | hynaf | 3 |
| ieuanc | iau | ieued | ieuaf | 1 |
| ieueng | ieuenged | ieuengaf | ||
| ifanc | ifanced | ifancaf | ||
| isel | is | ised | isaf | |
| uchel | uwch | uched | uchaf | 3 |
Sylwadau:
- Mae’r terfyniadau yn affeithio’r llafariad.
- Dydy "anodd" dim ond ffurf gryno ‘an-hawdd’, a’r ffurfiau cymariaethol yn dilyn: anos, anhawsed, anhawsaf.
- Mae’r terfyniadau yn achosi byrhau yn sillaf gyntaf.
Does dim ond pedwar ansoddair sy’n afreolaidd pellach:
| cys. | cyf. | cym. | eith. |
|---|---|---|---|
| da | cystal | gwell | gorau |
| drwg | cynddrwg | gwaeth | gwaethaf |
| hir | cyhyd | hwy | hwyaf |
| mawr | cymaint | mwy | mwyaf |
Ansoddeiriau heb gysefin
Mae PWT yn disgrifio dau fath o ansoddair heb ffurf gysefin:
Ansoddeiriau diffygiol (PWT 4.113)
| cymharol | eithaf |
|---|---|
| amgen, amgenach | — |
| — | eithaf |
| hytrach | — |
| trech | trechaf |
Ansoddeiriau deillir o enwau (PWT 4.114)
| enw | cyf. | cym. | eith. |
|---|---|---|---|
| rhaid | rheitied | rheitiach | rheitiaf |
| gwerth | cyfwerth | ||
| nifer | cynifer | ||
| rhyw | cyfryw | ||
| ysgwydd | cyfysgwydd | ||
| ystyr | cyfystyr | ||
| dewis | dewisach | ||
| elw | elwach | ||
| lles | llesach | ||
| rhagor | rhagorach | ||
| blaen | blaenaf | ||
| diwedd | diweddaf | ||
| ôl | olaf | ||
| pen | pennaf |
Sylwch fod ffurfiant y ffurfiau cymariaethol yn rheolaidd iawn.
Defnydd
Defnyddir y cyfartal yn y patrwm: "cyn" <cyfartal>+TM "â/ag" <enw>. Dw i ddim yn gwybod os oes lleoedd heb angen am "cyn". Er enghraifft, oes angen am "cyn" efo ansoddeiriau cyfartal sy’n dechrau efo "cy[f]"?
Defnyddir y cymharol yn y patrwm: <cym> "na/g" <enw>(+TLL).
Cymhariaeth ymadroddol
Yn yr iaith lafarol neu anffurfiol, defnyddir cymhariaeth ymadroddol, sef:
- cyfartal: "mor" <ans. cysefin>+TM "â/ag" <enw>.
- cymharol ac eithafol: ffurf gymharol neu eithafol "bach" neu "mawr" efo ansoddair cysefin "na/g" <enw>(+TLL).
Cyfeiriadau
| [PWT] | (1, 2) Gramadeg y Gymraeg, Peter Wyn Thomas, 1996, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, isbn: 0-7083-1345-0. |