Ansoddeiriau Lluosog
Mae nifer o ansoddeiriau sy’n cytuno efo rhif eu henw. Gellir eu dosbarthu mewn dau fath: ansoddeiriau sy’n affeithio eu llafarog, ac ansoddeiriau sy’n ychwanegu terfyniad.
Ansoddeiriau sy’n affeithio eu llafarog
Dosbarth caeëdig yw hwn, efo naw ansoddair:
| Newid | Cyff. | Lluosog | Saesneg |
|---|---|---|---|
| a->ai | amddifad | amddifaid | destitute |
| arall | eraill | other | |
| bychan | bychain | little | |
| cyfan | cyfain | whole | |
| ifanc | ifainc | young | |
| llydan | llydain | wide | |
| truan | truain | wretch | |
| a->y | cadarn | cedyrn | firm |
| caled | celyd | hard |
Sylwch: er bod prif gyfnewid yn y sillaf olaf, mae llafariad obennol yn cael ei haffeithio hefyd (h.y., arall -> eraill, cadarn -> cedyrn, caled -> celyd).
Ac eithrio ffurfiau lluosog celyd a chyfain, mae’r geiriau hyn yn eithaf cynhyrchiol (h.y., mewn 10,000 gair amlycaf GEG).
Ansoddeiriau sy’n ychwanegu terfyniad
Dosbarth efo nifer fawr o ansoddeiriau yw hyn. "-ion" yw’r terfyniad, gan gollir "i" ar ôl llafariad (e.e., duon, meddwon).
Dydy ansoddeiriau lluosog yn gynhyrchiol iawn : Mae 65 yng NghEG, dim ond saith yn y 3000 amlycaf:
| Cyff. | Lluosog | Saesneg | Amlder | Safle |
|---|---|---|---|---|
| arall | eraill | other | 1022 | 114 |
| newydd | newyddion | new | 135 | 926 |
| ifanc | ifainc | young | 101 | 1208 |
| bychan | bychain | little | 83 | 1435 |
| du | duon | black | 62 | 1810 |
| mawr | mawrion | big | 36 | 2856 |
| glas | gleision | blue/green | 35 | 2905 |
Yn aml, mae ansoddeiriau lluosog yn cael eu defnydd fel enwau, e.e., y newyddion, yr ifainc, ayb.