Ansoddeiriau Benywaidd

Yn ôl PWT [1], does ‘na ddim ond 25 o eiriau sy’n cytuno efo’r enw a chael ffurf fenywaidd. Dyma’r holl restr:





Newid Cyff. Ben. Saesneg
y/e brych brech mottled
bychan bechan little
byr ber short
cryf cref strong
gwlyb gwleb wet
gwyn gwen white
gwyrdd gwerdd green
hysb hesb barren
llyfn llefn even
llym llem acute
melyn melen yellow
sych sech dry
syml seml simple
tywyll tywell dark
w/o brwnt bront dirty
crwm crom curved
crwn cron round
cwta cota abrupt
dwfn dofn deep
hwn hon this
hwnnw honno that
llwm llom bleak
tlws tlos pretty
trwm trom heavy
i/ai brith braith speckled

Sylwadau:

  • Mae’r rhan fwyaf o’r geiriau hyn yn aml iawn: mae 14 mewn 2000 gair amlycaf (yn ôl CEG); ac eithrio dau (crwm ac hysb) mae bob un mewn 10,000 gair amlycaf.
  • Mae’r newid rhwng ffurf gyffredinol a benywaidd yn syml iawn. Gellir ei disgrifio fo fel agor y llafariad (e.e., y -> e, w -> o, i -> ai).
  • Does dim ond ansoddeiriau sy’n defnyddir fel goleddfwr enw yn cael ffurf fenywaidd. Er engrhaifft:
    1. Dyma stori fer.
    2. Mae’r stori yn fyr.

    Mae PWT (nod. a tud. 191) yn dweud, "Gall ansoddeiriau benywaidd a lluosog fod yn ddibeniadol mewn arddulliau hynafol a thafodieithol, e.e., Y mae’r afon yn sech." Mae gan CEG defnyddiau traethiadol bob un o’r ansoddeiriau uchod, ond dim ond gan bychan (1 enghraifft) a gwyn (2 enghraifft) ffurfiau benywaidd dibeniadol neu draethiadol.

Cyfeiriadau

[1] Gramadeg y Gymraeg, Peter Wyn Thomas, 1996, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, isbn: 0-7083-1345-0.

Comments are closed.